Nid yw cariad yn darfod byth
Mae’r Coronafirws yn ein heffeithio i gyd. Ond mae cariad yn ein huno i gyd.
Mae Wythnos Cymorth Cristnogol (10-16 Mai) yn newid hefyd. Byddwn yn cynnal yr holl weithgareddau arferol yn nes ymlaen yn ystod y flwyddyn, ond rydym am gynnal Wythnos ddigidol ym mis Mai.
Dyma'r adnoddau addoli sydd wedi eu paratoi ar eich cyfer:
Mae adnoddau Saesneg ar gael fan hyn
Apêl Brys Coronafirws
Am fwy o wybodaeth ar sut mae Cymorth Cristnogol yn ymateb i'r firws o amgylch y byd, neu os ydych am gyfrannu i'n hapel brys ewch i'r dudalen hon
Gweddïau
Nid yw cariad yn darfod byth
Hyd yn oed yn yr adegau mwyaf tywyll, mae cariad yn rhoi gobaith.
Mae cariad yn ein cymell i frwydro yn erbyn Coronafirws ar y cyd gyda’n brodyr a’n chwiorydd ar hyd a lled y byd.
Mae cariad yn ein cymell i sefyll mewn gweddi gyda’n cymdogion yn agos a phell.
Mae cariad yn ein cymell i roi ac i weithredu fel un.
Mae’n gwbl glir bod ein dyfodol ynghlwm yn dynnach a’n gilydd nag erioed ,
Wrth i ni weddïo yn ein cartrefi unigol - ar draws y wlad ac ar hyd a lled y byd - yr ydym yn cael ein huno’n un teulu. Felly, gadewch i ni oedi, a chanfod moment o dawelwch wrth i ni godi’n calonnau mewn gweddi.
Dywedwch y gweddïau hyn yn uchel neu’n dawel, ar eich pen eich hun neu gydag eraill ar lein.
Gweddïau o ddiolchgarwch ac eiriolaeth
Am weithwyr iechyd sy’n gofalu am y difrifol sâl
am wyddonwyr sy’n gweithio ar frechiad
am yr ymchwilwyr sy’n dadansoddi data a chanfod tueddiadau
am y cyfryngau sy’n cyfathrebu’r realiti
am weithwyr archfarchnadoedd, hylendid a glanweithdra
am straeon newydd da am adferiadau a chynllunio effeithiol
am ganu o falconïau gan gymunedau sy wedi eu cau i mewn
am ddealltwriaeth nad yw ynysu’n gorfod golygu unigrwydd
am nodiadau drwy flychau llythyrau yn cynnig help a chefnogaeth
am y rhyngrwyd a theliffon a thechnoleg sy’n cysylltu
am gael ein deffro i sylweddoli be sy’n cyfrif go iawn
Diolch a fo i Dduw.
Gweddi mewn cyfnod o hunan ynysu
‘Dw i'n hollol sicr fod dim byd yn gallu'n gwahanu ni oddi wrth ei gariad e. Dydy marwolaeth ddim yn gallu, na'r un profiad gawn ni mewn bywyd chwaith. Dydy angylion ddim yn gallu, na phwerau ysbrydol drwg … Na, does dim yn y bydysawd yma greodd Duw yn gallu'n gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yn ein Harglwydd ni, y Meseia Iesu!’ (Rhufeiniaid 8:38-39)
Dduw'r nefoedd a’r ddaear,
ar yr adeg hon o hunan ynysu,
ar wahân i’n ceraint
yn bell oddi wrth ffrindiau
i ffwrdd o gymdogion,
diolch nad oes dim
yn yr holl greadigaeth,
ddim hyd yn oed y Coronafirws,
sy’n gallu ein gwahanu ni oddi wrth dy gariad di.
A bydded i’th gariad diddarfod di
barhau i gael ei rannu
trwy garedigrwydd dieithriaid
yn gofalu am ei gilydd,
a chymdogion ymhell ac agos,
a phawb yn cydnabod eu breuder,
pob un ohonom yn ddiolchgar am bob anadl,
ac yn fodlon i bawb arall hefyd
dderbyn rhodd bywyd llawn ac iach.
Cadw ni yn d’ofal.
Amen.
Gweddi dros weithwyr iechyd ym mhobman
Dduw adferiad ac iachâd,
diolch am weithwyr iechyd ym mhobman,
sy’n caru’n aberthol yn y dyddiau heriol hyn
gan roi lles eraill o flaen eu lles eu hunain
yn cadw draw oddi wrth deulu a ffrindiau
yn cysuro’r gofidus a’r galarus
yn calonogi’r pryderus a’r bregus
yn gweithio i iachau ac adfer pobl sâl.
Bydd yn dywysydd, yn gryfder, doethineb a gobaith iddynt.
Gweddïwn y bydd rhai mewn awdurdod yn eu gwarchod
gan gyflenwi’r offer diogel sydd ei angen arnynt
ac i’w hymroddiad gael ei gydnabod gyda diolch dwfn
wrth iddynt ddychwelyd adref yn lluddedig.
A gweddïwn dros weithwyr iechyd dros y byd,
sydd â’u hoffer diogelwch
bob amser yn brin, ac nid nawr yn unig.
Bydded i’r dyddiau rhyfeddol hyn
ein harwain i ddealltwriaeth o’r newid sydd ei angen yn ein byd,
newid fydd yn sicrhau ymdrech go iawn i fynd i’r afael
ag anghyfiawnder sy’n golygu y penderfynir disgwyliad oes
gan ddaearyddiaeth,
a’n bod i gyd yn perthyn i’r un byd
ac yn gweithio tuag at yr un nod.
Amen.
Gweddi cyn tawelwch
Dduw cariadus,
ceisiwn dy bresenoldeb
yn y tawelwch y tu hwnt i eiriau
yn edrych tuag atat am gysur,
nerth, diogelwch a chalonogaeth,
yn anadlu diolchgarwch
yn dal gafael mewn gobaith
yn ymddiried gyda ffydd
mai ti sy Dduw o hyd
yng nghanol yr holl helbul,
y bydd dy gariad yn cyrraedd
hyd eithaf y ddaear.
Bydd gyda ni nawr.
(Tawelwch)
Amen.
Gweddi yn y pandemig
‘Mae cariad bob amser yn amddiffyn; mae bob amser yn credu; bob amser yn gobeithio; bob amser yn dal ati. Fydd cariad byth yn darfod.’ (1 Corinthiaid 13:7-8)
Dduw cariadus,
cryfhau ein bod
gyda’r cariad sy’n cynnal popeth
hyd yn oed pwysau’r pandemig hwn
hyd yn oed y chwilio manwl am symptomau
a’r disgwyl hir iddynt fynd heibio,
yn gwylio a disgwyl,
gan gadw’n llygaid arnat ti,
a gofalu am ein cymdogion
ymhell ac agos.
Gosod yn ein henaid brau
y gred a’r gobaith fod popeth
yn bosibl gyda dy gariad creadigol
y gall dieithriaid ddod yn ffrindiau
y gallu gwyddoniaeth ganfod yr atebion
y gall adnoddau gael eu rhannu’n deg
fel bod pawb, ym mhobman, yn cael yr hyn sydd ei angen,
a bod dy gariad, na ŵyr ddim am ffiniau,
yn bwrw allan pob ofn a hunanoldeb sy’n rhannu.
Bydded i’th gariad sy byth yn darfod
ein cysuro, ein nerthu a’n harwain
er lles pawb ac er
gogoniant i Dduw.
Amen.
Gweddi dros yr eglwys
Bydded i’th gariad nad yw’n darfod
gryfhau’r gwan
annog yr ofnus
tawelu’r pryderus
iachau’r sâl
trwy dy eglwys –
dy ddwylo, wedi eu golchi’n lân,
a’th draed ar y ddaear –
yn bell ond dal yn bresennol
yn rhithiol ond mewn cysylltiad
ar wahân ond yn dal i helpu.
Dduw yn dy drugaredd,
gwrando ein gweddi.
Amen.
Y weddi y dysgodd Iesu inni
Ein Tad,
yr hwn wyt yn y nefoedd
Deled dy deyrnas, gwneler dy ewyllys,
megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol.
Maddau inni ein dyledion
fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr.
Ac nac arwain ni i brofedigaeth
eithr gwared ni rhag y drwg.
Canys eiddot ti yw’r deyrnas,
a’r nerth, a’r gogoniant,
yn awr ac yn oes oesoedd.
Amen.