Yr hyn a wnawn:
- Rydym yn cefnogi Pwyllgorau Cymorth Cristnogol lleol - yn enwedig yn y cyfnod cyn Wythnos Cymorth Cristnogol, sef ein hymdrech codi arian fawr pob mis Mai.
- Rydym yn pregethu neu siarad am waith Cymorth Cristnogol i grwpiau, ysgolion neu eglwysi.
- Rydym yn recriwtio gwirfoddolwyr, yn cynnwys ymgyrchwyr ac athrawon Cymorth Cristnogol.
- Rydym yn trefnu gweithgareddau ac yn gwahodd ymwelwyr i Gymru o rai o’n partneriaid ar draws y byd.
Ein hunaniaeth Gymreig
Rydym yn ymdrechu i sicrhau hunaniaeth Gymreig ac wedi’n gwreiddio yng Nghymru. Hyd y gallwn, rydym yn gweithio yn y ddwy iaith ar draws Cymru.
Ariannu a pholisi o Gymru
Rydym yn cysylltu gyda Cynulliad Cenedlaethol Cymru - gweinyddiaeth wedi ei ddatganoli gydag ystod eang o rym i weithredu ar bolisïau cartref - a hynny trwy’r Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru a’r Grŵp Trawsbleidiol ar Ddatblygu Rhyngwladol.
Rhoddodd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 rymoedd newydd i’r Cynulliad gan agor y posibilrwydd y gellid ariannu gwaith datblygu rhyngwladol er mwyn mynd i’r afael a thlodi. Mae’r Cynulliad hefyd yn gweithio ar bolisïau i fynd i’r afael a newid hinsawdd yng Nghymru.