Prosiect Cymru Zimbabwe
Mae Cymorth Cristnogol Cymru wedi derbyn grant o £182,000 gan Gynllun Grantiau Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru er mwyn cyrraedd cymunedau sydd wedi eu heffeithio gan argyfyngau Covid-19 a hinsawdd yn Zimbabwe.
Bydd y prosiect “Bywoliaethau Cynaliadwy” yn rhedeg am flwyddyn ac yn helpu cryfhau gwydnwch 10,500 o ffermwyr benywaidd yn Rhanbarth Hwange yn Zimbabwe wrth iddynt wynebu heriau Covid-19 a’r argyfwng hinsawdd.
Wrth i Covid-19 a’r argyfwng hinsawdd barhau i gael effaith ar bobl o amgylch y byd, y cymunedau tlotaf sydd yn teimlo’r effeithiau gwaethaf. Mae’r pandemig wedi arwain at gynnydd mewn prisiau grawn a cholli incwm, gan adael ffermwyr bach yn benodol yn fregus. Mae mesurau clo wedi tarfu ar ffermio a marchnadoedd cynnyrch. Daw hyn ar ben effeithiau’r argyfwng hinsawdd sydd wedi creu heriau go iawn wrth dyfu bwyd, gyda chyfnodau hirach o sychder a llifogydd difrifol.
Trwy weithio gyda phartneriaid lleol, mae Cymorth Cristnogol wedi bod yn gweithio yn Zimbabwe ers y 1960au. Bydd y prosiect hwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn hyfforddi merched mewn dulliau ffermio hinsawdd wydn, gan roi’r sgiliau iddynt addasu i’w hamgylchedd newydd a grëwyd gan newid ym mhatrwm y tywydd, tra hefyd yn eu cefnogi i ymladd a lliniaru effeithiau Covid-19.
Erbyn diwedd y prosiect bydd gan deuluoedd gwell ddiogelwch bwyd ac incwm, trwy gynyddu mynediad i gyfleoedd bywoliaeth gynaliadwy, ffermio hinsawdd wydn, rheolaeth ar adnoddau naturiol ac adfer amgylcheddol. Mae’r prosiect yn cynnwys plannu 20,000 o goed newydd er mwyn cyfrannu at adfer fforestydd a rhoi ynni glân, cynaliadwy i 1,000 cartref, yn ogystal â grymuso grŵp o ffermwyr benywaidd gyda sgiliau eiriol ac arwain er mwyn eu galluogi i gymryd rhan a chael llais wrth siapio polisïau fydd yn effeithio eu bywyd a’u bywoliaeth.
Yn gyfan gwbl mae’r prosiect yn anelu i gyrraedd 40,000 o bobl, gan eu helpu i fod yn fwy gwydn wrth iddynt barhau i wynebu realiti yr argyfwng hinsawdd.
Meddai Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru, Mari McNeill, ‘Mae’r grant hwn gan Lywodraeth Cymru yn newydd da i bobl yn Zimbabwe sy’n teimlo effaith y pandemig a’r argyfwng hinsawdd. Mae hefyd yn newydd da i ni yng Nghymru, wrth inni weithio tuag at fod yn genedl gyfrifol yn fyd eang. Mae Cymorth Cristnogol Cymru yn rhan o fudiad anhygoel o bobl, eglwysi a chyrff lleol sy’n anelu i ddileu tlodi trwy fynd i’r afael â’i achosion gwraidd. Diolch i Gynllun Cymhorthdal Cymru Affrica, byddwn yn gallu cyrraedd y rhai sy fwyaf bregus i’r argyfwng hinsawdd, tra hefyd yn dysgu ganddynt a sefyll mewn undod gyda merched yn Zimbabwe i fod yn asiant newid yn eu cymunedau eu hunain.’
Chwiliwch am ffyrdd eraill o ddysgu mwy am y prosiect hwn a chyfle i fod yn rhan ohono:
Cysylltwch â Cymorth Cristnogol Cymru trwy cymru@cymorth-cristnogol.org
Dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol: @DileuTlodi a @ChristianAidCymru
(Mae'r llun uchod o Agnes yn dangos gwaith Cymorth Cristnogol yn Zimbabwe. Nid llun o'r prosiect ei hun ydyw.)