Skip to main content

Ymddeoliad Tom Defis

Mae Tom Defis yn ymddeol fel aelod o staff Cymorth Cristnogol ar ôl 29 mlynedd. Cafodd Dyfed Wyn Roberts sgwrs gydag ef ar ddiwedd pennod go arbennig.

Wel, Tom, mae’r diwrnod mawr wedi cyrraedd! Sut wyt ti’n teimlo am y peth?

Teimlad rhyfedd a dweud y gwir, gan fod gwaith Cymorth Cristnogol wedi bod yn weinidogaeth ac yn alwedigaeth, ac yn rhan ganolog o fywyd ac o fywyd y teulu. Mi fydd bywyd yn wahanol, er wrth gwrs y bydd Cymorth Cristnogol yn cael lle amlwg o hyd. Rwy’n digwydd bod yn Drysorydd Cyfundeb yr Annibynwyr ac mae’r Undeb wedi ymrwymo i drafod ymgyrch Cymorth Cristnogol ynglŷn â newid a chyfiawnder hinsawdd ac wedi cytuno i gynnal apêl enwadol i gefnogi Cymorth Cristnogol flwyddyn nesaf. Ond fel pawb sy’n ymddeol, mi fydd cyfle i ymlacio gobeithio.

Beth aiff a dy amser di wedi i ti ymddeol?

Mi fydd yn braf cael rhoi mwy o amser i’r teulu ac yn arbennig yr wyrion Corran a Serian sydd yn dod yn bobl ifanc bellach, a’r ddau fach Tristan ac Efa. Bydd cyfle i wneud mwy ar y tyddyn sydd gyda ni ac i gefnogi’r gwaith gofal am y defaid, y geifr, y moch a’r alpacas sydd yma.

Y mae Canolfan Heol Dŵr yn brosiect sefydlu canolfan Gristnogol a Chymunedol Gymraeg yng Nghaerfyrddin. Fel un o’r ymddiriedolwyr a chadeirydd y Ganolfan, mi fydd llawer o waith i’w wneud yno. Rwy’n aelod o nifer o fudiadau yn Sir Gaerfyrddin, felly bydd digon i’w wneud, yn y dyfodol agos beth bynnag.

Ar ôl 29 o flynyddoedd, mae’n siŵr fod gen ti lawer iawn o atgofion? Be ydi’r peth sy wedi rhoi mwyaf o bleser iti yn y gwaith?

Yr wyf wedi cael pleser mawr yn cydweithio gydag ymgyrchwyr, cefnogwyr, yr eglwysi a’r enwadau yn ogystal â phobl yn y cymunedau, sydd wedi bod yn hael eu cefnogaeth i’r gwaith, a hefyd mae ymweld ag ysgolion i rannu am y gwaith wedi bod yn bleser. Y pleser mwyaf yw gweld effaith gwaith ein cefnogwyr yma yng Nghymru ar waith ein partneriaid, a’r newid sydd yn digwydd yn eu cymunedau yn sgil hynny. Mae wedi bod yn fraint i gael bod yn rhyw ddolen gyswllt rhwng y partneriaid yma yng Nghymru a’r partneriaid yn y gwledydd lle mae Cymorth Cristnogol yn gweithio. Rwy wedi cael cyfle i rannu stori’r tlawd a chael ymateb cadarnhaol.

Rwyt ti wedi cael cyfle i deithio dramor sawl gwaith i weld gwaith partneriaid Cymorth Cristnogol; be sy’n aros yn y cof o’r teithiau hynny?

Un o’r pethau rwy wedi teimlo ar hyd y blynyddoedd yw mai’n braint ni yw cael gweithio gyda’r tlawd a’r rhai sydd dan ormes. Nid gweithio dros y tlawd, nid ni’n rhoi a nhw’n derbyn ond cydweithio i nerthu’r gwan, codi pobl ar eu traed i gynnal eu cymunedau a lleihau gormes. Rhai o’r pethau sydd yn aros - tlodi eithafol yn Affrica ac Asia, canlyniad gormes a thrais yn Guatemala ac yn arbennig ym Mhalestina, effaith trychinebau sydd yn taro rhai ardaloedd tro ar ôl tro fel Haiti a Chanolbarth America.

Ond hefyd cofio gweld effaith gwaith Cymorth Cristnogol, y llawenydd a’r gwerthfawrogiad sydd yn cael ei ddangos gan bobl sydd yn derbyn cymorth a chefnogaeth. Gweld plentyn 9 oed wedi gwella o ddiffyg maeth eithafol yn Nhanzania, gwragedd yn gweithio’n galed i adeiladu cronfa ddŵr allweddol yn Zimbabwe. Gweld teuluoedd yn Nicaragua yn ail adeiladu eu bywydau ar ôl swnami a rhai yn Haiti yn symud i mewn i gartref o’u tai sianti ar ôl daeargryn anferth. Sylweddoli dylanwad ymgyrchoedd cymod, a ffoaduriaid yn dathlu cael mynd adref i Guatemala, ac yna cael rhan yn y trefniadau, ac eistedd o gwmpas ford bwyd gyda meddygon a oedd yn Israeliaid, a hynny mewn pentref a chymuned o Balestiniaid yng Ngwlad yr Iesu.

Am y tro cyntaf ers rhai blynyddoedd, mae tlodi eithafol ar gynnydd yn y byd; fyddi di’n colli gobaith weithiau?

Y mae’n gallu bod yn anodd ac yn rhwystredig weithiau ac mae rhywun yn cynhyrfu pan fydd gweithgarwch y cyfoethog yn effeithio’n andwyol ar y tlawd. Fel gyda grawn ar hyn o bryd. Oherwydd y prinder, y mae’r cyfoethog yn prynu’r cynnyrch heb ofidio bod y tlawd heb ddim, neu fod y pris yn mynd y tu hwnt i gyrraedd y tlawd. Mae hyn wedi digwydd ynglŷn â’r brechlyn Cofid hefyd, lle mae’r gwledydd cyfoethog wedi meddiannu’r cyflenwadau. Er gwaethaf hynny rhaid peidio colli gobaith ond dyfalbarhau yn y gwaith, gan gofio bod pod cyfraniad mewn rhodd neu ymgyrch a gweithred yn gwneud gwahaniaeth. Rwy wedi sylweddoli bod Duw yn troi ein cyfraniadau bach ni i fod o fendith fawr i eraill. Nid gormod o dlodi yw problem fawr ein byd, ond effaith gormod o gyfoeth. Cyfoeth sydd yn meddiannu adnoddau’r byd, a’r tlawd yn dioddef.

Rydan ni’n byw mewn Cymru ôl-Gristnogol meddai rhai, beth ydi rôl asiantaeth cymorth ryngwladol wedi ei seilio ar ffydd yn y Gymru fodern?

Y mae Cymorth Cristnogol yn rhoi cyfle i eglwysi a Christnogion i gydweithio ac i gyd dystio i’w ffydd yn eu cymunedau. Gobeithio bod gwaith Cymorth Cristnogol o’i drefnu’n iawn yn ddatguddiad o Dduw ar waith yn y byd. Tystiolaeth o Gariad Duw mewn byd sydd yn brin iawn o gariad, ac sydd yn mynnu gwneud elw i’r hunan o bob gweithred. Rwy’n cofio clywed un o’n partneriaid ni o’r India yn ateb cwestiwn, “Beth mae Cymorth Cristnogol yn ei olygu i chi sydd o ffydd arall?”. A’i hateb hi oedd, “bod Cymorth Cristnogol yn rhoi heb ofyn am ddim yn ôl”. Duw ar waith.

Pa neges sydd gennyt ti i eglwysi Cymru wrth iti ymddeol?

Wel dau beth, gair o ddiolch am bob cefnogaeth am bob ymgyrch a chyfraniad, ond gair o anogaeth i barhau i wneud gwahaniaeth. Yr eglwysi yw Cymorth Cristnogol, ryn ni fel mudiad yma yn llais i ddweud y stori ac yn freichiau i ymestyn cymorth yr eglwysi. Cofiwn mai’r eglwysi sydd berchen ar Cymorth Cristnogol ac mai gwaith Duw yw’r cyfan. Cyfrannwch yn hael, ymgyrchwch yn gadarn a gweddïwch yn daer am lwyddiant.  Bydd Duw yn bendithio’r gwaith.

Meddai Mari McNeill, Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru:

Bydd colled enfawr yng ngorllewin Cymru ar ôl Tom. Mae ef a Cymorth Cristnogol yn un yn y rhanbarth a bydd cefnogwr a'r staff yn gweld ei eisiau. Fodd bynnag, gwn y bydd Tom yn parhau i gefngoi gwaith Cymorth Cristnogol. Hoffwn ddiolch o galon iddo am ei gyfraniad mawr dros 29 o flynyddoedd a dymuno bendith Duw arno ef, Anona ei wraig, a’r teulu oll yn ei ymddeoliad.