O Ionawr 2023, bydd disgwyl i ysgolion sy’n ymgeisio am wobr Cymdogion Byd-eang arddangos eu hymrwymiad i wrth-hiliaeth.
Dylai ysgol Cymdogion Byd-eang nid yn unig fod yn anhiliol, dylent fod yn weithredol wrth-hiliol. Mae hyn yn dechrau gydag ymrwymiad gan arweinwyr yr ysgol i flaenoriaethu addysgu gwrth-hiliaeth ymysg staff, fel y gall (beth bynnag fo cyd-destun yr ysgol) addysg hyrwyddo urddas a chydraddoldeb i bawb.
Fel tlodi, mae hiliaeth yn amddifadu pobl o’u hurddas, eu grym a’u llais. Ni all ei wreiddiau gael eu gwahanu oddi wrth agweddau gwaethaf ein hanes trefedigaethol ac felly dylid rhoi ystyriaeth lawn iddo mewn perthynas ag addysg dinasyddiaeth fyd-eang.
Rydym yn cydnabod fod symud tuag at fod yn ysgol wirioneddol wrth-hiliaeth yn siwrne; ei fod y cymryd amser ac angen cefnogaeth. Ar waelod y dudalen hon fe welwch ddolenni i amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu chi ddatblygu eich ymarfer. Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru yn rheolaidd a bydd adnoddau pellach yn cael eu hychwanegu.
Mae’r fideo isod yn fan cychwyn defnyddiol wrth i chi weithio tuag at wreiddio ymarfer gwrth-hiliaeth yn eich ysgol.
Fideo hyfforddiant i helpu ysgolion wrth iddynt weithio tuag at ddatblygu eu hymarfer gwrth-hiliaeth. Yn enwedig o ddefnyddiol ar gyfer ysgolion sy’n ymgeisio am Gymdogion Byd-eang. Mae’r fideo hon yn cynnwys cyfres o gwestiynau trafod ar y diwedd a allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer sesiwn DPP staff.
Gwrth-hiliaeth yn yr Ysgol