Skip to main content

Eisiau grymuso'r genhedlaeth nesaf o weithredwyr dros newid ond gyda chwpl o gwestiynau? Dim problem.

Rydym yn meddwl ei fod yn wych bod gennych ddiddordeb yn ein cynllun achredu cyffrous ar gyfer ysgolion wrth i ni barhau i arfogi disgyblion ysgol ledled Cymru i ddod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus o Gymru a’r byd. 

Rydym yn deall efallai bod gennych gwestiynau ac rydym yn gobeithio y byddwch yn cael ein Cwestiynau Cyffredin yn ddefnyddiol. Rydym wedi cynnwys cwestiynau amrywiol ynglŷn â chymhwysedd, y broses achredu, y ffit gyda rhaglenni eraill, cael hyd i gefnogaeth ac adnoddau a sut i ddod i gysylltiad â ni. Cliciwch ar y dolenni isod i gael gwybod mwy. 

Cymhwysedd

A yw hyn ar gyfer ysgolion cynradd yn unig? 

Ydi, ar hyn o bryd dim ond i ysgolion cynradd yng Nghymru y cynigir y cynllun. 

Y broses achredu

Sut ydym yn gwneud cais am achrediad? 

Gweler ein tudalen Sut i ymgeisio am Gymdogion Byd-eang ar gyfer manylion am sut i ymgeisio am wobr a’r camau yn y broses.

Y rhan bwysicaf o’r broses yw eich cwblhad a chyflwyniad o’r ffurflen Hunanwerthuso Cymdogion Byd-eang sydd ar gael i’w lawrlwytho gyda’ch Pecyn Adnoddau Cymdogion Byd-eang unwaith rydych wedi cofrestru.

Mae’r broses wedi ei chynllunio i leihau faint o dystiolaeth sydd angen i chi ei anfon mewn cefnogaeth o’ch cais ar wahân i’r ffurflen hunanasesu, trosolwg cwricwlwm a throsolwg addoli ar y cyd. Yn ogystal, bydd ysgolion sy’n gwneud cais am arian neu aur yn gallu cyflwyno nifer o ffurfiau o dystiolaeth y dymunent rannu pan fydd yr asesydd yn ymweld wyneb yn wyneb. 

Beth yw costau ymuno â’r cynllun? 

Mae cofrestru ar gyfer y cynllun am ddim, felly hefyd y rhan fwyaf o’r gefnogaeth rydym yn ei roi i ysgolion o ran adnoddau.

Mae cost pan fydd ysgol yn gwneud cais am wobr Efydd, Arian neu Aur yn unig. Mae hyn i helpu gyda chostau sylfaenol amser asesydd (a theithio yn achos gwobrau Arian ac Aur) a hefyd rhediad y cynllun. Cewch eich anfonebu wedi’r asesiad gael ei gynnal. 

 

Maint ysgol Gwobr Efydd   Gwobr(au) Arian a Aur 

Bach iawn (llai na 100 disgybl) 

          £70              £260

Bach (rhwng 100 & 210 disgybl)  

          £90              £335

Mawr (mwy na 210 disgybl) 

          £110              £410

A oes rhaid i ni dalu os yw ein cais yn aflwyddiannus? 

Oes. Fodd bynnag, bydd dilyn y broses Hunanwerthuso yn ofalus gan ddilyn yr arweiniad yn y llawlyfr hwn a chyngor ar wahân ar sut i baratoi ar gyfer ymweliad asesydd yn lleihau’r siawns o hyn ddigwydd. 

Ymhellach, yn achos cais aflwyddiannus am wobr Aur neu Arian , bydd yr asesydd yn argymell gwobr is (neu os yw’r ysgol eisoes gyda’r wobr lefel is, yn ei ymestyn am gyfnod pellach o dair blynedd). 

Beth fydd ymweliad asesydd yn ei olygu ar gyfer ceisiadau arian ac aur? 

Bydd asesydd yn ymweld â’r ysgol am hanner diwrnod ar amser a gytunwyd. Bydd yr asesydd yn adolygu’r dystiolaeth a ddarparwyd gan yr ysgol ar ffurfiau amrywiol ac yn cyfarfod ag aelodau perthnasol o staff a disgyblion ac aelodau eraill o’r gymuned fel bo’n addas am eu profiadau, cynlluniau a dysgu. Bydd manylion llawn am sut i baratoi ar gyfer ymweliad yn cael eu hanfon pan dderbynnir cais am wobr. 

Beth fyddem yn ei dderbyn os ydym yn llwyddiannus? 

Caiff pob ysgol sydd wedi’i achredu dystysgrif achrediad a thrwydded i ddefnyddio’r logo Cymdogion Byd-eang ar gyhoeddiadau ysgol a phen llythyrau. Bydd ysgolion achrededig hefyd yn derbyn arweiniad ac adnoddau i’w helpu rhannu eu llwyddiant a’u dysgu, er enghraifft trwy’r wasg leol. 

Pa mor hir mae achrediad yn para? 

Mae gwobrau Efydd, Arian ac Aur yn dod i ben ar ddiwedd y drydedd flwyddyn ysgol lawn yn dilyn dyddiad y wobr. I’w roi mewn ffordd arall, bydd cyfnod gwobrwyo newydd yn agor ym Medi bob blwyddyn ac yn rhedeg am weddill y flwyddyn ysgol honno a’r tair blynedd ganlynol. Felly, bydd pob gwobr angen ei hadnewyddu rhwng tair a phedair blynedd o ddyddiad y wobr, yn dibynnu ar ba gam a gyrhaeddwyd yn y flwyddyn ysgol pan ddyfarnwyd y wobr. Er enghraifft, bydd gwobr a ddyfarnwyd yn Ebrill 2023 yn barod i’w adnewyddu yn Awst 2026. 

Byddwch yn derbyn manylion ar sut i wneud cais am adnewyddu yn nes at yr amser y bydd eich gwobr yn dod i’w diwedd. 

Sut ydych yn sicrhau ansawdd, cysondeb a thegwch yn y broses achredu? 

Mae proses drylwyr ar gyfer apwyntio aseswyr, a ddilynir gan raglen o hyfforddiant parhaus ac adolygiadau blynyddol ar gyfer pob asesydd. 

Cysylltiad â rhaglenni eraill 

Rydym eisoes wedi gwneud llawer o waith i gefnogi dinasyddiaeth fyd-eang ar draws y cwricwlwm, gyda chefnogaeth rhaglenni a sefydliadau eraill. A fydd hyn yn cyfrif tuag at achrediad? 

Bydd, yn yr ystyr ei fod yn helpu arddangos bod eich ysgol yn cyrraedd y meini prawf ar gyfer achrediad a’i fod yn waith sy’n digwydd yn eich ysgol ar hyn o bryd. 

 Sut mae’r cynllun hwn yn berthnasol i, ac yn wahanol i, gynlluniau achredu eraill ynghylch dysgu byd-eang a datblygiad cynaliadwy (e.e. Eco-Ysgolion, Ysgolion Sy’n Parchu Hawliau)? 

Mae ffocws penodol y cynllun hwn ar ddarparu cyfleoedd i’r disgyblion ddatblygu eu dealltwriaeth o faterion anghyfiawnder byd-eang ac i ddod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus Cymru a’r byd. 

Yn gyffredin a llawer o gynlluniau eraill, mae’r cynllun yn annog ysgolion i ddatblygu dinasyddiaeth fyd eang trwy nifer o feysydd cwricwlwm ond mae yn wahanol o ran y lle a roddir i Addysg Grefyddol a gweithredu. Ar gyfer ysgolion eglwys, mae ei arwahanrwydd hefyd yn dod o’i allu i helpu ysgolion yr eglwys i berthnasu eu gwaith ar ddinasyddiaeth fyd-eang gyda’u cymeriad Cristnogol a’r fframwaith ar gyfer adolygiadau Adran 50 o ysgolion Yr Eglwys yng Nghymru. Gyn belled â bod rhan eich ysgol mewn cynlluniau eraill yn cefnogi’r meini prawf achredu, gellir eu defnyddio i gefnogi cais ar gyfer Gwobr Ysgol Cymdogion Byd-eang. 

A all ysgol gael ei achredu heb gefnogi Cymorth Cristnogol? 

Gall, ond rydym yn gobeithio y byddwch yn gweld y cyfleoedd a ddarperir gan Gymorth Cristnogol i ddisgyblion godi ymwybyddiaeth, lleisiau ac arian yn ddefnyddiol. 

Cefnogaeth, adnoddau a phartneriaethau 

A all ein hysgol barhau i gael cefnogaeth ac adnoddau gan Gymorth Cristnogol hyd yn oed os ydym yn dewis peidio â mynd am achrediad? 

Gall, wrth gwrs. Mae ein hadnoddau dysgu ar gael yn rhad ac am ddim ar ein gwefan i bob ysgol. 

 A allwn ni weithio gydag ysgolion eraill yn fy ardal, esgobaeth neu ymddiriedolaeth aml-academi?  

Gallwch – a dweud y gwir rydym yn annog ysgolion yn gryf i rannu eu siwrne achredu Cymdogion Byd-eang gydag ysgolion eraill y mae ganddynt berthynas agos â hwy. 

A yw Cymorth Cristnogol yn darparu cymorth ar gyfer cysylltu ag ysgolion rhyngwladol? 

Nid ydym yn gallu cysylltu ysgolion ym Mhrydain ag ysgolion yn unman arall yn y byd ond mae llawer o sefydliadau a chynlluniau eraill sydd yn. Gweler rhan ‘Adnoddau a Chefnogaeth Bellach’ o Lawlyfr Cymdogion Byd-eang. [Insert link to Global Neighbours Handbook]

 

Cysylltu 

Sut ydym yn mynegi diddordeb ein hysgol mewn cymryd rhan? 

Mae cofrestru ar ein gwefan yn rhad ac am ddim ac nid yw’n golygu unrhyw ymrwymiad i ymgeisio am achrediad. Gall eich ysgol wedyn wneud penderfyniadau am ba mor gyflym i symud ymlaen ar y siwrne i achrediad. 

Pwy ddylwn i gysylltu â hwy os oes gen i gwestiwn neu broblem nad ydi’n cael ei hateb gan y Cwestiynau Cyffredin na’r Llawlyfr? 

E-bostiwch gnadmin@christian-aid.org neu cymru@cymorth-cristnogol.org byddwn yn ymateb mor gyflym â phosibl. 

Sut allaf i archebu adnoddau neu gael gwybod mwy am eich gwaith ysgolion? 

Porwch ein gwefan neu e-bostiwch schools@christian-aid.org.

Cofrestrwch ar gyfer Cymdogion Byd-eang

Dewch i ni ymuno â’n gilydd i ddangos i bobl ifanc y pŵer sydd ganddynt i drawsnewid y byd hwn! Cofrestrwch.