Skip to main content

O Ionawr 2023, bydd disgwyl i ysgolion sy’n ymgeisio am wobr Cymdogion Byd-eang arddangos eu hymrwymiad i wrth-hiliaeth.

Dylai ysgol Cymdogion Byd-eang nid yn unig fod yn anhiliol, dylent fod yn weithredol wrth-hiliol. Mae hyn yn dechrau gydag ymrwymiad gan arweinwyr yr ysgol i flaenoriaethu addysgu gwrth-hiliaeth ymysg staff, fel y gall (beth bynnag fo cyd-destun yr ysgol) addysg hyrwyddo urddas a chydraddoldeb i bawb. 

Fel tlodi, mae hiliaeth yn amddifadu pobl o’u hurddas, eu grym a’u llais. Ni all ei wreiddiau gael eu gwahanu oddi wrth agweddau gwaethaf ein hanes trefedigaethol ac felly dylid rhoi ystyriaeth lawn iddo mewn perthynas ag addysg dinasyddiaeth fyd-eang. 

Rydym yn cydnabod fod symud tuag at fod yn ysgol wirioneddol wrth-hiliaeth yn siwrne; ei fod y cymryd amser ac angen cefnogaeth. Ar waelod y dudalen hon fe welwch ddolenni i amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu chi ddatblygu eich ymarfer. Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru yn rheolaidd a bydd adnoddau pellach yn cael eu hychwanegu. 

Mae’r fideo isod yn fan cychwyn defnyddiol wrth i chi weithio tuag at wreiddio ymarfer gwrth-hiliaeth yn eich ysgol. 

Fideo hyfforddiant i helpu ysgolion wrth iddynt weithio tuag at ddatblygu eu hymarfer gwrth-hiliaeth. Yn enwedig o ddefnyddiol ar gyfer ysgolion sy’n ymgeisio am Gymdogion Byd-eang. Mae’r fideo hon yn cynnwys cyfres o gwestiynau trafod ar y diwedd a allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer sesiwn DPP staff. 

Gwrth-hiliaeth yn yr Ysgol

Fideo hyfforddiant i helpu ysgolion wrth iddynt weithio tuag at ddatblygu eu hymarfer gwrth-hiliaeth. Yn enwedig o ddefnyddiol ar gyfer ysgolion sy’n ymgeisio am Gymdogion Byd-eang. Mae’r fideo hon yn cynnwys cyfres o gwestiynau trafod ar y diwedd a allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer sesiwn DPP staff. 

Fframwaith NEU ar gyfer datblygu ymagwedd wrth-hiliol

Ymagwedd fanwl a defnyddiol gan y National Education Union

Centre for Race Education and Decoloniality

Resources from Leeds Beckett University, including their Anti-Racist Schools award.

Dod yn ysgol wrth-hiliol | Teach First

Bydd y ddolen hon yn mynd a chi at wefan Teach First.

Sut i ddefnyddio’r celfyddydau i daclo hiliaeth mewn ysgolion

Darllenwch am sut ddefnyddiodd un ysgol yn Norfolk ffyrdd creadigol o ddatblygu ymarfer gwrth-hiliaeth.

How arts and culture can help decolonise the curriculum

Podlediad gan TES yn esbonio sut mae hanes pobl dduon yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion – a sut gall canolbwyntio ar y celfyddydau wneud gwahaniaeth.

Friends, Families and Travellers

Bydd y ddolen hon yn mynd a chi at wefan sipsiwn a theithwyr.

The Anti-Racist Educator

Bydd y ddolen hon yn mynd a chi at wefan yr Anti-Racist Educator.

Words for Life

Darllenwch a dysgwch am wrth-hiliaeth. Bydd y ddolen hon yn mynd a chi i wefan Words for Life.

BAMEed Network

Du, Asiaidd & Lleiafrifoedd Ethnig. Bydd y ddolen hon yn mynd a chi i wefan BAMEed Network.

Cydraddoldeb a Gwrth-hiliaeth – Comisiynydd Plant Cymru

Amrywiaeth o adnoddau sy’n edrych ar hawliau plant i Gydraddoldeb a Pheidio â Chamwahaniaethu. Maent yn cynnwys adnoddau dosbarth, llyfrynnau a fideos