Costau
Mae cofrestru am ddim. Codir tâl pan fo ysgolion yn gwneud cais am wobr yn unig.
Mae hyn i helpu talu costau sylfaenol amser a chostau teithio asesydd, a rhediad y cynllun. Byddwch yn cael ei anfonebu wedi i’r asesiad ddigwydd.
Maint ysgol | Gwobr Efydd | Gwobr(au) Arian a Aur |
---|---|---|
Bach iawn (llai na 100 disgybl) |
£70 | £260 |
Bach (rhwng 100 & 210 disgybl) |
£90 | £335 |
Mawr (mwy na 210 disgybl) |
£110 | £410 |
Beth yw’r cais ymgeisio?
Cam 1: Cofrestru
Os nad ydych wedi eisoes, cofrestrwch ar gyfer y cynllun.
Cam 2: Byddwch yn barod
Unwaith rydych wedi cofrestru byddwch yn derbyn neges gadarnhad pwysig drwy e-bost (cadwch hwn yn ddiogel!) Bydd hwn yn cynnwys dolen i wefan lle gallwch lawrlwytho Pecyn Adnoddau Cymdogion Byd-eang sy’n cynnwys y Ffurflen Hunanwerthuso a rhai dogfennau ac adnoddau defnyddiol.
Cam 3: Cofrestru ar gyfer hyfforddiant
Bydd eich e-bost cadarnhau hefyd yn cynnwys dolen i gofrestru ar gyfer gweminar hyfforddiant Cymdogion Byd-eang a fydd angen i o leiaf un unigolyn o’ch ysgol fynychu wrth i chi ddechrau gweithio ar eich cais.
Cam 4: Dechrau arni
Defnyddiwch y Ffurflen Hunanwerthuso i adolygu eich ymarfer cyfredol. Y ffordd orau o wneud hyn yw ar y cyd â chyd-weithiwr neu grŵp bychan o gydweithwyr. Nodwch statws cyfredol pob un o’r meini prawf yn eich ysgol chi, a dechreuwch ychwanegu enghreifftiau o dystiolaeth sy’n cefnogi eich barn. Os nad yw gofynion un o’r meini prawf wedi’i gwreiddio’n llawn eto, nodwch yn y golofn ‘Pwyntiau Gweithredu’ beth rydych yn bwriadu ei wneud i symud eich ymarfer yn ei flaen.
Defnyddiwch y llawlyfr, gweminar hyfforddi a’r deunyddiau ar wefan Cymdogion Byd-eang ar gyfer syniadau o’r hyn allech chi ei wneud ym mhob categori. Dechreuwch adeiladu corff o dystiolaeth ac ychwanegwch hwn i’ch Ffurflen Hunanwerthuso.
Cam 5: Adolygu
Caniatewch amser i weithredu ar eich pwyntiau gweithredu. Wedi cyfnod o (er enghraifft) chwe mis, adolygwch eich statws cyfredol eto gan ddiwygio’r ffurflen fel bo angen, gan ychwanegu unrhyw dystiolaeth gefnogol newydd. Diweddarwch eich pwyntiau gweithredu i ddangos sut rydych yn bwriadu mynd i’r afael ag unrhyw feini prawf nad ydynt eto wedi’u gwreiddio’n llawn.
Efallai y byddwch angen ailadrodd y cam hwn fwy nag unwaith nes y byddwch yn fodlon eich bod yn cwrdd â’r meini prawf ar gyfer y wobr Cymdogion Byd-eang. Mae’r rhan fwyaf o ysgolion angen o leiaf tri thymor llawn i symud eu hymarfer ymlaen i’r pwynt y maent yn barod i wneud eu cais Cymdogion Byd-eang.
Cam 6: Ymgeisio am achrediad
Unwaith rydych chi’n fodlon bod gofynion y meini prawf i gyd wedi gwreiddio neu wreiddio’n llawn, rydych yn barod i gyflwyno eich cais. Gallwch ymgeisio am achrediad ar-lein trwy’r ddolen a gawsoch yn eich e-bost cadarnhau.
Ar y dudalen ymgeisio, bydd gofyn i chi gyflwyno eich Ffurflen Hunanwerthuso. Byddwch hefyd angen cyflwyno trosolwg cwricwlwm a throsolwg addoli ar y cyd. Ar gyfer y ddau hyn, aroleuwch enghreifftiau clir o addysg dinasyddiaeth fyd-eang. Gallwch hefyd gyflwyno hyd at 3 dogfen gefnogi arall.
Cam 7: Asesiad
Os ydych wedi ymgeisio am wobr EFYDD, bydd asesydd yn adolygu eich dogfennau i gyd, siarad â’r arweinydd Cymdogion Byd-eang dros y ffôn ac yna wneud penderfyniad ar sail y dystiolaeth rydych yn ei ddarparu (nid oes ymweliad asesydd ar gyfer gwobr Efydd).
Os ydych wedi ymgeisio am wobr ARIAN NEU AUR bydd asesydd yn cysylltu â chi i drefnu ymweliad ysgol. Byddent yn chwilio am wybodaeth a thystiolaeth am sut mae eich ysgol wedi ymgysylltu â phob un o’r pum maes fframwaith Cymdogion Byd-eang. Bydd yr asesydd un ai yn gwobrwyo eich ysgol neu’n rhoi cyngor ar bethau y gallech eu gwneud i dderbyn gwobr y tro nesaf. Byddwch yn cael eich anfonebu wedi i’r asesiad ddigwydd.
Cam 8: Amser penderfynu
Bydd penderfyniad ac adroddiad yr asesydd yn cael ei anfon atoch. Gobeithio y bydd hynny yn golygu y gall eich ysgol ddathlu ei gwaith caled gyda gwobr. Os oedd yr asesydd yn teimlo fod angen mwy o waith, bydd hynny’n cael ei amlinellu yn yr adroddiad.
Cam 9: Dathlu
I’ch helpu chi i ddathlu llwyddiant eich ysgol gyda Chymdogion Byd-eang bydd datganiad i’r wasg yn cael ei anfon atoch i’ch helpu rhoi gwybod i’r wasg leol. Bydd Cymorth Cristnogol hefyd yn anfon hysbysiad o’r wobr a logo pen llythyr, a hefyd dystysgrif arbennig. Bydd y wobr yn para am hyd at dair mlynedd academaidd. Ar ddiwedd cyfnod y wobr, byddwch yn gallu ail ymgeisio.
Os nad oeddech yn llwyddiannus yn cael gwobr ar yr ymgais gyntaf, gallwch ddefnyddio’r adborth i’ch helpu ymgeisio eto.