Skip to main content
Published on 3 June 2020

Ar ôl 18 mlynedd o wasanaeth i Cymorth Cristnogol, daeth yn amser ffarwelio ag Anna Jane Evans, Cydlynydd Rhanbarth Gogledd Cymru. Cychwynnodd Anna Jane yn ei swydd yn 2002 a bu’n aelod pwysig o dîm Cymru byth ers hynny. Bydd yn cychwyn fel gweinidog yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru, wedi ei lleoli yn Seilo, Caernarfon, ac Eglwys y Waun, Waunfawr.

Ym mlynyddoedd ei gwasanaeth gyda Cymorth Cristnogol, bu iddi ymweld â phum gwlad i weld drosti ei hun y gwahaniaeth yr oedd haelioni eglwysi Cymru yn gallu ei gyflawni ymysg cymunedau tlotaf y byd.

Meddai Anna Jane, ‘Yr uchafbwynt ymhlith y teithiau oedd ymweld â’r Pilipinas fel rhan o apêl y Presbyteriaid yn 2018. Roedd mor ysbrydoledig cyfarfod â phobl gyffredin sy wedi eu galluogi a’u grymuso gan bartneriaid Cymorth Cristnogol i herio awdurdod llywodraeth yno. Trwy’r ymdrechion hyn maent yn gallu mynnu eu hawliau ac mae hynny’n allweddol wrth iddyn nhw frwydro yn erbyn tlodi.

‘Mae wedi bod yn fraint gweithio i Cymorth Cristnogol ar hyd y blynyddoedd hyn. Wrth gwrs, ar un ystyr, dwi ddim yn gorffen – byddaf yn dal i wirfoddoli yn union fel ag yr oeddwn cyn imi ddod yn aelod o’r staff. Bydd y berthynas yn parhau.’

Cyfraniad mawr Anna Jane

Wrth ffarwelio â hi, dywedodd Cynan Llwyd, Pennaeth Gweithredol Cymorth Cristnogol yng Nghymru, ‘Rydym ni’n drist wrth ffarwelio ag Anna Jane gan fod ei chyfraniad hi wedi bod mor fawr. Mae hi’n berson sy’n llawn angerdd tuag at waith Cymorth Cristnogol ac yn un sy’n teimlo’n gryf iawn wrth weld anghyfiawnder a thlodi yn ein byd.

‘Ymhlith cyfraniad enfawr Anna Jane fe allwn restru paratoi sawl oedfa radio ar y BBC, paratoi oedfaon yr Eisteddfod Genedlaethol, a cherdded dwy daith noddedig arbennig - y cyntaf o Nasareth, Caernarfon i Fethlehem, Sir Gaerfyrddin, a’r llall yn cychwyn ym Methlehem ond yn diweddu yn yr Aifft, Sir Ddinbych. Efallai yn bwysicach na dim, fodd bynnag, ydi’r cefnogwyr cyffredin ar hyd a lled y gogledd sydd wedi eu hysbrydoli ganddi i gefnogi gwaith Cymorth Cristnogol. Dyma hanfod y swydd - a gwnaeth hynny gyda graen bob amser.’

Ychwanegodd Cynan Llwyd, ‘Er y teimlwn ni’r golled, rydym yn dymuno’n dda iddi ar gyfer y dyfodol. Bydd ei sgiliau fel cydlynydd rhanbarthol lawn mor ddefnyddiol wrth arwain eglwys. Dymunwn fendith Duw ar ei gweinidogaeth newydd.’

Anna Jane smiling infront of a tree
Anna Jane Evans