Skip to main content
Published on 22 August 2017

View this page in English

Llongyfarchiadau gwresog iawn i eglwysi Undeb Bedyddwyr Cymru am gasglu £67,077.73 yn ystod eu Hapêl 2016 tuag at brosiect Cymorth Cristnogol yng ngwlad  Ghana. Codwyd £27,077.73 yn fwy na'r nod gwreiddiol.

Canolbwyntiwyd yr apêl ar wella gwasanaethau iechyd mamol yn rhannau gogleddol y wlad. Tra bod Ghana wedi mwynhau llwyddiant economaidd cymharol, mae'r rhan ogleddol yn parhau i ddioddef lefelau uchel o dlodi a newyn, yn enwedig mewn iechyd mamol.  Mae partner Cymorth Cristnogol yn Ghana, sef SEND Ghana, wedi gweithio gyda chymunedau i hyfforddi, calonogi ac addysgu’r boblogaeth o fanteision y gwasanaeth iechyd mamol sydd ar gael iddynt, a’u galluogi i sicrhau mwy o gymorth gan ei llywodraeth.

Mae effaith y fath waith yn galonogol iawn gan fod llawer mwy o famau beichiog yn ymweld â'r clinigau fisoedd ynghynt nag yn y gorffennol. Yn ogystal, maent yn derbyn cynghorion a meddygaeth fodern ac yn penderfynu rhoi genedigaethau yn y clinig ym mhresenoldeb bydwragedd a hyfforddwyd, yn hytrach nag yn eu cartrefi eu hunain. Golyga hyn eu bod yn derbyn cefnogaeth gyson drwy gyfnod eu beichiogrwydd ac yn medru cael cymorth ychwanegol pe cyfyd problemau.

Y nod a osodwyd i'r apêl oedd £40,000, ond y mae Bedyddwyr Cymru wedi dangos haelioni enfawr trwy gasglu llawer mwy na'r ffigwr hwn.  Bydd yr arian ychwanegol yn fodd i brynu adnoddau ar gyfer rhai o'r clinigau iechyd mamol.Dywedodd y Parchedig Denzil John, Cadeirydd Pwyllgor Eglwys a Chyfrifoldeb Cymdeithasol, "Rwy'n hynod falch fod cymaint o’n heglwysi wedi ymateb mor gadarnhaol i'r apêl, sy'n profi eu bod yn barod iawn i ymestyn allan at y rhai sy'n llai ffodus na ni. Diolchwn bod bywydau llawer o famau a phlant yn mynd i'w harbed drwy'r Apêl hon."

Ychwanegodd y Parchedig Judith Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru, "Gan fod y prosiect hwn yn un a oedd yn derbyn cefnogaeth yr Undeb Ewropeaidd a’r nod ariannol bellach wedi’i gyrraedd, mae hyn wedi helpu datgloi €500,000 yn ychwanegol tuag at y gwaith angenrheidiol o achub bywydau yn Ghana.”

Wrth dderbyn y siec ar ran Cymorth Cristnogol, diolchodd y Parchedig Tom T Defis am ymdrech hael eglwysi’r Bedyddwyr, gan nodi bod yr arian yn mynd i wneud cymaint o wahaniaeth i’r mamau a’u plant yn Ghana. Diolchodd hefyd am fod yr ymateb i’r apêl yn tanlinellu perchnogaeth Undeb Bedyddwyr Cymru, ynghyd a’r enwadau eraill, o waith Cymorth Cristnogol.

Ychwanegodd Huw Thomas, Pennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru ei ddiolch a’i longyfarchiadau am yr ymdrech enfawr hon, a chyfeiriodd at neges a dderbyniwyd oddi wrth Ernest Okyere, Rheolwr Gwlad i Cymorth Cristnogol yn Ghana, a ddywedodd, 'Yr ydym yn teimlo’n ostyngedig iawn bod UBC wedi dewis cefnog’r prosiect hwn ac mi roedd yn hyfrydwch cael croesawu ymwelwyr o Gymru llynedd. Ar ran pobl Ghana, plis derbyniwch ein diolchgarwch a chadarnhad bod y prosiect hwn yn helpu i achub bywydau yn ein gwlad ni.'