Arolwg Cymorth Cristnogol yn dangos fod y pandemig wedi cynyddu’r teimlad o ysbryd cymunedol ar draws Cymru.
Mae arolwg i gymuned leol a byd eang wedi dangos fod dros ddau o bob pump (41%) oedolyn yng Nghymru wedi teimlo fod cynnydd mewn ysbryd cymunedol yn eu cymuned ers cychwyn y cloi mawr, datgelodd Cymorth Cristnogol heddiw.
Yn yr arolwg gan Savanta ComRes, wedi ei gomisiynu gan yr elusen datblygu rhyngwladol, mae bron i dri o bob deg (27%) o oedolion ar draws Cymru yn dweud iddynt deimlo yn fwy o ran o gymuned byd eang na chyn i’r firws gychwyn.
Caiff canlyniadau’r arolwg eu rhyddhau wrth i Cymorth Cristnogol anog pobl yr hydref hwn i ddod at ei gilydd oddi fewn i’w cymunedau – yn unol â’r rheolau – i helpu’r rhai yn fyd eang sydd wedi eu heffeithio mor ddrwg gan bandemig y coronafirws.
Wrth ymateb i ganlyniadau’r pôl, meddai Cynan Llwyd, Pennaeth Gweithredol Cymorth Cristnogol yng Nghymru, ‘Ry ni’n gwybod mai cymuned o gymunedau clos yw Cymru; mae’n rhan o’i chymeriad arbennig. Felly mae darganfod fod dros 40% o bobl Cymru’n teimlo fod ysbryd cymunedol wedi cynyddu yn ystod y pandemig yn eithaf rhyfeddol.
‘Mae’n debyg na ddylwn i synnu, oherwydd rwy wedi clywed sawl stori am grwpiau cymunedol newydd yn codi ym mhob cwr o Gymru yn cynnig help ymarferol i’r rhai sy wedi gorfod hunan ynysu. O wneud neges wythnosol, i gasglu presgripsiwn, mae cymdogion wedi bod ar gael i helpu ei gilydd yn ystod yr argyfwng. Mae wedi bod yn wych ei weld.’
Cymdogion byd eang
Wrth ymateb i’r teimlad o berthyn i gymuned byd eang yn yr arolwg, meddai Cynan Llwyd ‘Rwyf wedi fy nghalonogi nad yw Cymru, er yng nghanol yr holl heriau adref, wedi colli golwg ar anghenion mawr pobl dlotaf ein byd yn ystod yr argyfwng. Mae Cymorth Cristnogol yn bodoli i gefnogi’r cymunedau tlotaf a mwyaf bregus o amgylch y byd ac mae Covid19 wedi dangos bod eu gwaith mor bwysig ag erioed.’
‘Fel y gwelwn ni, dyw’r firws ddim wedi diflannu ond dyw tlodion y byd ddim wedi diflannu chwaith. Rwyf am annog pobl Cymru i barhau gyda’r ysbryd cymunedol gwych yr ydyn ni wedi ei weld a pharhau i wneud gwahaniaeth go iawn ym mywydau ein cymdogion ymhell ac agos yr hydref hwn.’
Mae Cymorth Cristnogol yn ymateb i’r coronafirws yn Affrica, Asia ac America Ladin a’r Caribî. Mae’n gweithio gyda phartneriaid ac arweinwyr ffydd i hysbysu pobl am y risgiau, yn cynnig hyfforddiant glanhau hollbwysig, cyflenwi cyfleusterau iechyd a rhoi pecynnau bwyd a sebon i deuluoedd ar yr ymylon.