Mae ein Tîm Ysgogi Cefnogwyr Canolog (TYCC) yn cyfro Cymru gyfan ac ar gael i ateb unrhyw gwestiwn sydd gan eich eglwys neu grŵp.
Gallwch gysylltu gyda Helen ac Eleri:
- trwy e-bostio cymru@cymorth-cristnogol.org
- trwy ffonio 029 2084 4646
- neu trwy anfon post (gan eithrio rhoddion) i’n swyddfa genedlaethol yn Cymorth Cristnogol:
Capel Tabernacle
81 Heol Merthyr
Yr Eglwys Newydd
Caerdydd
CF14 1DD
Nodwch os gwelwch yn dda, y bydd pob siec a anfonir yn cael ei hanfon i'n pencadlys yn Llundain i'w phrosesu ac felly rydym yn eich annog i anfon sieciau'n uniongyrchol i Christian Aid, 35-41 Lower Marsh, London SE1 7RL, i atal unrhyw oedi.
Mae gennym staff o hyd ar lawr gwlad trwy Gymru sydd yn gweithio o’u cartrefi, a bydd TYCC yn eich cysylltu gyda hwy os mai hwy yw’r bobl orau i’ch helpu.
Helen Roach
Helen yw ein Swyddog Ysgogi Cefnogwyr Canolog yng Nghymru, wedi ei lleoli yn ein swyddfa genedlaethol yng Nghaerdydd.
Astudiodd Helen ddiwinyddiaeth yn y brifysgol a daw i Cymorth Cristnogol o gefndir mewn nifer o elusennau yng Nghymru wedi canolbwyntio ar fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb. Yn fwyaf diweddar, hi oedd yn arwain ar waith perthynas aelodau i Tai Pawb, elusen sy’n gofalu am gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y sector dai yng Nghymru, gan gynnwys anghenion tai ffoaduriaid. Cafodd Helen ei geni a’i magu yng Nghaerdydd ac mae wedi dysgu Cymraeg yn rhugl fel ail iaith.
Eleri Haf Alter
Eleri yw ein Cydlynydd Ysgogi Cefnogwyr Canolog Cymru ac mae wedi ei lleoli yn ein swyddfa genedlaethol yng Nghaerdydd.
Magwyd Eleri yng Nghastell Nedd ac astudiodd Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Yn dilyn ei gradd aeth ati i gwblhau blwyddyn gydag Undeb Bedyddwyr Cymru fel rhan o ‘Tîm i Gymru’ yn y gogledd, gan gynnwys treulio mis yn Yr India. Daw at Cymorth Cristnogol wedi gweithio ym myd cyllid am ddwy flynedd. Yn ei hamser hamdden, mae’n astudio tuag at radd meistr yn y gwyddorau cymdeithasol.