Fel arbenigwyr ym meysydd cyfiawnder byd-eang, argyfyngau dyngarol a datblygu rhyngwladol, mae nifer o eglwysi yng Nghymru yn dewis gweithio gyda ni.
Gweithiwn gyda’r enwadau Cristnogol yn ystod ein hapêl codi arian blynyddol, Wythnos Cymorth Cristnogol, yn ogystal ag achlysuron allweddol eraill wrth ymgyrchu, gweddïo ac addoli.
Gellir canfod adnoddau addoli Cymraeg wrth ochr yr adnoddau Saesneg yn ein hardal adnoddau.
Ymunwch gyda ni i wneud gwahaniaeth
Os oes diddordeb gennych mewn clywed mwy am ein gwaith neu os hoffech wirfoddoli gyda ni, ebostiwch ein swyddfa yng Nghaerdydd
Yr eglwysi sy’n ein cefnogi
Mae’r enwadau Cymreig a ganlyn yn cael eu cynrychioli ar ein Pwyllgor Cenedlaethol yng Nghymru: Yr Eglwys yng Nghymru, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Undeb Bedyddwyr Cymru ac Undeb Annibynwyr Cymru
Y mae’r pwyllgor hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o enwadau ar draws y DU, Eglwys Ddiwygiedig Unedig, Yr Eglwys Fethodistaidd, Undeb Bedyddwyr Prydain, y Crynwyr, yr Undodiaid a Byddin yr Iachawdwriaeth
CYTÛN (Eglwysi ynghyd yng Nghymru) yw corff eciwmenaidd Cymru, sy’n annog yr eglwysi i gefnogi gwaith Cymorth Cristnogol. Mae Cymorth Cristnogol yn gweithio o fewn CYTÛN ac mae’r Ysgrifennydd Cyffredinol yn aelod o’r Pwyllgor Cenedlaethol.