Mae'r adnodd hwn yn cael ei ddiweddaru a bydd yn barod i'w ddefnyddio erbyn mis Medi 2023. Cysylltwch gyda’n Swyddog Ysgolion, Rebecca Elliott, am fwy o wybodaeth.
Mae 65 miliwn wedi eu dadleoli o’u cartrefi heddiw oherwydd trychinebau naturiol, anghydfod, newid hinsawdd a thlodi.
Dyma un o heriau mwyaf ein dydd ac mae’r ffordd yr ymatebwn iddo yn allweddol.
Mae Pecyn Dysgu Dinasyddiaeth Fyd-eang Cymorth Cristnogol yn adnodd parod i’w defnyddio yn llawn o weithgareddau i fynd a chi a’ch myfyrwyr trwy’r holl elfennau paratoi ar gyfer cymhwyso yng Nghyfnod Allweddol 4. Mae’r Pecyn Sialens yn cynnwys yr holl adnoddau y byddwch eu hangen i gynnal asesiad.
Ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Adnoddau Cymorth Cristnogol yn y Cwricwlwm i Gymru
Cyflwyniad Pwynt pwer yn dangos sut gall adnoddau Cymorth Cristnogol ffitio yn y maes dysgu a phrofiad Y Dyniaethau, adnoddau ar gyfer chweched dosbarth a gwasanaethau. Mae clicio ar y lluniau yn y cyflwyniad yn agor yr adnodd ar y we.

Image credits and information

Adnoddau ar gyfer ysgolion Sul a grwpiau ieuenctid
Dogfen yn disgrifio ein adnoddau i eglwysi ar gyfer grwpiau plant a phobl ifanc. Mae clicio ar y dudalen yn agor yr adnodd ar y we.