Skip to main content

Lansiad Cymru o'r strategaeth

Mewn cyfnod lle mae ansefydlogrwydd gwleidyddol ac amgylcheddol yn cynyddu o amgylch y byd, mae Cymorth Cristnogol wedi lansio strategaeth fyd-eang newydd. Mae’n mynegi’n hymrwymiad i adeiladu byd sydd yn rhydd o dlodi, ble mae adnoddau byd-eang yn cael eu rhannu’n deg a’u defnyddio’n gynaliadwy; a ble mae llais a gallu’r tlawd yn cael ei weithredu’n llawn.

Mewn digwyddiad arbennig yng Nghaerdydd y gwanwyn hwn, myfyriodd Prif Weithredwr Cymorth Cristnogol, Amanda Mukwashi, Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwr Cymorth Cristnogol, Dr Rowan Williams, a Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Gysylltiadau Rhyngwladol a’r Iaith Gymraeg, Eluned Morgan AC ar heriau ein dydd ac ar y gwahaniaeth y gallwn i gyd ei wneud yng Nghymru trwy weithio mewn partneriaeth gydag eraill o amgylch y byd.

Roedd yn ddigwyddiad cyffrous, ble daeth dros 300 o bobl at ei gilydd. Roedd y gynulleidfa’n cynnwys Cyfarwyddwyr ac Ymddiriedolwyr Cymorth Cristnogol, aelodau o Bwyllgor Cenedlaethol Cymru, arweinwyr eglwysi a chynrychiolwyr o’r eglwysi sy’n ein noddi, trefnwyr a chefnogwyr lleol, yn ogystal â chynrychiolwyr y llywodraeth a’r sector datblygu rhyngwladol yng Nghymru.

Mae’r ffilmiau byr sy’n dilyn - a baratowyd inni gan Rhodri Darcy o Undeb Annibynwyr Cymru - yn cynnwys blas o’r noson yn ogystal ag anerchiadau grymus y tri siaradwr.

Wrth inni gael ein hysbrydoli gan y ffilmiau hyn, gadewch inni ystyried sut y gallem wneud gwahaniaeth yn y byd.

Gallwch ddarllen ein Strategaeth Fyd-eang yn Gymraeg a Saesneg yma. Credwn, fodd bynnag, nad oes fawr o bwynt cael geiriau ar bapur heb fod yna bobl i wireddu’r weledigaeth! Mae eich partneriaeth chi’n holl bwysig os ydym am weld byd heb dlodi. Fel unigolion, eglwysi a chymunedau yng Nghymru, gadewch inni roi ystyriaeth ddofn  i sut y gallem weithredu’r strategaeth newydd a chyfrannu at y gwaith uchelgeisiol o ddileu tlodi eithafol yn fyd-eang.

Cysylltwch â Mari McNeill, Pennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru, am fwy o wybodaeth os gwelwch yn dda.